SL(5)XXX - Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018
Cefndir a Phwrpas
Effaith adran 14(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yw bod y Ddeddf i ddarfod ar 30 Gorffennaf 2018, oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 14(2) sy’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith. Mae’r Gorchymyn hwn yn orchymyn o’r fath ac mae’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith.
Gweithdrefn
Cadarnhaol
Craffu Technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn, sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Fel y nodwyd yn y Cefndir a Phwrpas, effaith adran 14(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yw bod y Ddeddf i ddarfod ar 30 Gorffennaf 2018, oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 14(2) sy’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith. Mae’r Gorchymyn hwn yn orchymyn o’r fath ac mae’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
8 Mawrth 2018